Golwg360

Golwg360

National
Welsh
Online/Digital

Outlet metrics

Domain Authority
47
Ranking

Global

N/A

Country

N/A

Category

N/A

Traffic sources
Monthly visitors

Articles

  • 2 weeks ago | golwg.360.cymru | Rhys Owen

    Mae Cymru wedi “gwneud yn arbennig o dda” o’r Adolygiad Gwariant, yn enwedig o ran buddsoddiad mewn seilwaith rheilffyrdd, yn ôl Ysgrifennydd dros Gyllid Llywodraeth Cymru, Mark Drakeford. “O dan yr amgylchiadau presennol, rydym wedi gwneud mor dda ag y gallwn ni,” meddai wrth golwg360. Er hynny, dywed ei fod eisiau “gweld lot o newid yn y system” ariannol yn y Deyrnas Unedig, ond bod hynny’n “gallu cael ei wneud yn y Fformiwla Barnett presennol”. Be gafodd ei gyhoeddi o ran rheilffyrdd?

  • 3 weeks ago | golwg.360.cymru | Rhys Owen

    Mae academydd blaenllaw ym Mhrifysgol Caeredin yn dweud mai “record wan” yr SNP fel plaid lywodraeth sy’n gyfrifol am eu canlyniad gwael yn is-etholiad Hamilton, Larkhall a Stonehouse. Yr ymgeisydd Llafur, Davy Russell, oedd yn fuddugol gan gipio’r sedd ag 8,559 o bleidleisiau, gan sicrhau mwyafrif o 602 dros yr SNP, ddaeth yn ail. Cafodd yr is-etholiad ei gynnal yn dilyn marwolaeth Christina McKelvie, Aelod yr SNP o Senedd yr Alban, ym mis Mawrth.

  • 1 month ago | golwg.360.cymru | Rhys Owen

    Mae Plaid Cymru wedi cyhuddo Darren Millar, arweinydd Grŵp Ceidwadol y Senedd, o “ddatgelu ei wir liwiau”, ar ôl iddo rannu neges gan blaid arall sy’n galw am ddiddymu’r Senedd. Mae’r neges wreiddiol gan blaid Abolish the Welsh Assembly yn beirniadu record Llywodraeth Cymru ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ac yn gorffen gan ddweud y dylid “diddymu” y Senedd. Wrth ymateb, dywed llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig wrth golwg360 nad yw hon yn “stori newyddion go iawn”.

  • 1 month ago | golwg.360.cymru | Rhys Owen

    Mae codi ysgol Gymraeg yn ne Caerdydd yn fater o gydraddoldeb, yn ôl un fu’n bresennol mewn symposiwm yn y brifddinas heddiw (dydd Mercher, Mai 14). Grŵp ymgyrchu Ysgol De Caerdydd fu’n cynnal y symposiwm, er mwyn trafod yr angen am ysgol uwchradd Gymraeg yn ne’r ddinas. Dywed y bargyfreithiwr Keith Bush KC, sy’n darlithio ym Mhrifysgol Caerdydd, fod cael mynediad at addysg Gymraeg yn ddadl gyfreithiol bosib o blaid adeiladu’r ysgol.

  • 1 month ago | golwg.360.cymru | Rhys Owen

    Mae buddugoliaeth Reform UK yn is-etholiad Runcorn a Helsby yn “esiampl dda” o’r hyn maen nhw’n gallu’i gyflawni yng nghadarnleoedd y Blaid Lafur, yn ôl prif lefarydd y blaid yng Nghymru. Enillodd y cyn-gynghorydd Ceidwadol Sarah Pochin y sedd o chwe phleidlais, gyda Karen Shore o’r Blaid Lafur yn ail. Er bod yr etholaeth yn un newydd ac ond wedi bodoli ers 2024, mae’n cael ei hystyried yn rhywle mae’r Blaid Lafur yn disgwyl gwneud yn dda ac yn rhan o’r ‘wal goch’ wleidyddol draddodiadol.

Golwg360 journalists

Try JournoFinder For Free

Search and contact over 1M+ journalist profiles, browse 100M+ articles, and unlock powerful PR tools.

Start Your 7-Day Free Trial →

Traffic locations