
Articles
-
1 month ago |
golwg.360.cymru | Manon Steffan Ros
Mae’r dynion wedi bod yn paratoi am heddiw. Maen nhw wedi bod yn paratoi’r byd ar gyfer heddiw hefyd – yn braenaru’r tir ar gyfer y sioe yma, sy’n cael ei pherfformio mewn ystafell hirgrwn, siap grenêd sydd wedi colli ei modrwy. Theatr yr abswrd yn symud o olygfa i olygfa mewn drama di-ddiwedd. Dydy’r cymeriadau ddim yn gredadwy, er eu bod nhw’n bobol go-iawn. Does bosib fod ’na bobol fel Trump yn bodoli go-iawn? Does bosib ei bod hi mor hawdd gwahaniaethu rhwng y dynion drwg a’r dynion da?
-
1 month ago |
golwg.360.cymru | Manon Steffan Ros
Mae o’n ddyn llai nag y byddech chi wedi meddwl. Eiddil. Gwantan, byddai rhai yn dweud tu hwnt i’w glyw o, a phob côt a siwmper a phâr o jîns sydd ganddo yn blygion mawr am ei gorff, yn rhy fawr. Mae o’n cerdded y mymryn lleiaf yn ei blyg hefyd, yn pwyso ymlaen yn erbyn rhyw wynt mawr na all unrhyw un arall ei deimlo, ei wyneb yn pwyntio at y pafin. Dewi. Dyn digon llwyd yr olwg. Sant. Mae o’n meddwl am ei fam yn aml.
-
2 months ago |
golwg.360.cymru | Manon Steffan Ros
Rydw i’n cofio’i gweld hi’n stelcian yn y bae. Roedd hi’n fawr, y Sea Empress, yn hy’ o fawr yng ngheg bae mor fach. Fel arfer, fe fyddwn i’n mwynhau gwylio’r cychod a’r llongau yn mynd a dod ar y llafn arian o fôr oedd ar fy ngorwel. Ond fedrwn i ddim mwynhau ei phresenoldeb hi. Fel petaswn i’n gwybod ei bod hi’n llawn gwenwyn. Gwyliais wrth iddi ddechrau gwaedu.
-
2 months ago |
golwg.360.cymru | Manon Steffan Ros
Rhyfedd mai heddiw y daeth y newyddion. Heddiw, o bob dydd. Diwrnod digon llwyd ydi hi, a’r gaeaf yn mynnu cadw’i chrafangau yn y tir, yr oerfel yn fwy milain na mae o wedi bod. Ond heddiw ydy’r diwrnod yr ydw i’n ei gyfri fel blwyddyn newydd go-iawn, gan mai heddiw y gwelais i’r genhinen Pedr cynta’ yn codi’n dalsyth ac yn falch o’r tir.
-
2 months ago |
golwg.360.cymru | Manon Steffan Ros
Fe ddywedodd: ‘I’m not having any of this political stuff.’ Roedd ei agwedd at Hanes Cymru’n sarhaus
Try JournoFinder For Free
Search and contact over 1M+ journalist profiles, browse 100M+ articles, and unlock powerful PR tools.
Start Your 7-Day Free Trial →